Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
21 Medi 2016
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(0munud)
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
(5munud)
NDM6099 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Busnes yn lle Simon Thomas (Plaid Cymru).
(5munud)
NDM6100 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Nathan Gill (Annibynnol) yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle Michelle Brown (UKIP).
(5munud)
NDM6101 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Adam Price (Plaid Cymru) fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad yn lle Dai Lloyd (Plaid Cymru).
(30 munud)
(30 munud)
NDM6095 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ei bod yn dair blynedd ers cyhoeddi adroddiad Yr Athro Sioned Davies a argymhellodd ddileu 'Cymraeg ail iaith' a sefydlu un continwwm dysgu'r Gymraeg yn ei le.
2. Yn nodi bod llythyr y Prif Weinidog o fis Rhagfyr 2015 yn datgan ei fod "o'r farn bod y cysyniad "Cymraeg fel ail iaith" yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o'r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol".
3. Yn nodi pwysigrwydd y gyfundrefn addysg er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
4. Yn gresynu at benderfyniad Cymwysterau Cymru i gadw'r cymhwyster Cymraeg ail iaith am gyfnod dros dro amhenodol, ac felly, er mwyn sicrhau na chaiff unrhyw ddisgybl ei amddifadu o sgiliau i ddefnyddio'r Gymraeg, yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) amlinellu amserlen glir ar gyfer disodli'r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith gydag un cymhwyster Cymraeg newydd i bob disgybl erbyn 2018 a fyddai'n golygu arholi'r cymhwyster newydd yn gyntaf yn 2020;
(b) mabwysiadu strategaeth i dargedu adnoddau ychwanegol ar ddysgu Cymraeg i athrawon dan hyfforddiant, athrawon mewn swydd, cymorthyddion dosbarth ac ymarferwyr dysgu eraill; ac
(c) buddsoddi'n sylweddol, a chynllunio o ddifrif, drwy becyn o fentrau arloesol, er mwyn cynyddu'n gyflym nifer yr ymarferwyr addysg sy'n dysgu drwy'r Gymraeg.
Dogfennau Atodol
'Un iaith i bawb: Adolygiad o Gymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4'
'Llythyr gan y Prif Weinidog, 4 Rhagfyr 2015'
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1Jane
Hutt (Bro Morgannwg):
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn nodi:
a) bod addysg yng Nghymru yn cael ei diwygio, bod Cymwysterau Cymru yn cryfhau TGAU Cymraeg Ail Iaith fel mesur dros dro, ac o 2021 y bydd y cwricwlwm newydd yn dileu'r gwahaniaeth rhwng Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith; a
b) y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau ac amserlenni ar gyfer newidiadau yn y cwricwlwm a'r broses asesu ar gyfer Cymraeg mewn ysgolion.
Gwelliant 2Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd meithrin sgiliau iaith Gymraeg mewn cylchoedd chwarae cyn ysgol.
Gwelliant 3Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r dull o feithrin sgiliau iaith Gymraeg ym mhob lleoliad Dechrau'n Deg.
Gwelliant 4Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynlluniau ar gyfer meithrin sgiliau iaith Gymraeg mewn cyrsiau galwedigaethol ac astudiaethau mewn lleoliadau dysgu yn y gymuned.
(30 munud)
NDM6096 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi pwysigrwydd aelodaeth lawn o farchnad sengl Ewropeaidd i economi Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi pa mor bwysig ydyw i economi Cymru gael mynediad i Farchnad Sengl yr UE.
2. Yn galw am eglurder o ran safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch caniatáu i bobl symud yn rhydd rhwng y DU a'r UE, ar ôl i'r DU adael yr UE.
3. Yn croesawu'r diddordeb mewn sefydlu cytundebau masnach newydd rhwng y DU a gwledydd eraill ar draws y byd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen orau i Gymru.
(60 munud)
NDM6093 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth yng ngogledd Cymru, a rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, a Chanolbarth Lloegr.
2. Yn credu bod y cynigion o fewn "Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru" yn cynnig sail ar gyfer gwella perfformiad economaidd yng ngogledd Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) cyhoeddi cynllun i wella ac uwchraddio cefnffordd yr A55 i fynd i'r afael â thrafferthion tagfeydd, risg o lifogydd, a diffyg llain galed mewn rhai ardaloedd;
(b) gweithio gyda Llywodraeth y DU a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i sicrhau bod llinell gogledd Cymru yn cael ei huwchraddio;
(c) gweithio gyda rhanddeiliaid i sefydlu cynllun cerdyn teithio trafnidiaeth integredig ar gyfer gogledd Cymru;
(d) cyhoeddi cynllun busnes manwl ar gyfer datblygu Metro Gogledd Cymru.
Dogfen Atodol
Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth o fewn Cymru, a rhwng Cymru a gweddill y DU ac Ewrop.
Gwelliant 2.
Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Dileu is-bwynt 3(c) a rhoi yn ei le:
'cyflwyno cerdyn teithio clyfar ar gyfer Cymru gyfan er mwyn cysylltu pob cymuned drwy system drafnidiaeth integredig.'
(60 munud)
NDM6094 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod rôl bwysig ysgolion gramadeg o ran hyrwyddo symudedd cymdeithasol a rhoi cyfle i blant o gefndiroedd tlawd gael mynediad at addysg o'r radd flaenaf.
2.
Yn nodi bod llai o symudedd cymdeithasol wedi mynd law yn llaw
â llai o lefydd mewn ysgolion gramadeg.
3. Yn credu mewn amrywiaeth mewn addysg uwchradd, sy'n rhoi hawl i
blant gael addysg ramadeg os yw rhieni'n dymuno hynny, ac yn
cefnogi statws uwch ar gyfer addysg dechnegol a galwedigaethol ac
ailgyflwyno ysgolion gramadeg yng Nghymru i greu system addysgol
sy'n rhoi'r cyfle gorau i blant o bob gallu.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.Paul
Davies (Preseli Sir Benfro):
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu nad yw dethol yn y system addysg yn briodol i ysgolion yng Nghymru.
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn credu mai ymestyn dewisiadau rhieni a disgyblion yw'r ffordd orau o wella safonau yn ein hysgolion.
Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ym mhwynt 3, dileu:
'sy'n rhoi hawl i blant gael addysg ramadeg os yw rhieni'n dymuno hynny'.
Gwelliant 4.Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ym mhwynt 3, dileu:
'ac ailgyflwyno ysgolion gramadeg'.
Gwelliant 5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod miloedd o blant bob blwyddyn yng Nghymru yn cael eu gwrthod o'r ysgolion y byddai orau ganddynt hwy a'u rheini am fod ysgolion da, llwyddiannus yn llawn.
Gwelliant 6. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ryddhau ysgolion o reolaeth awdurdodau lleol a galluogi ysgolion poblogaidd i ehangu er mwyn galluogi rhagor o ddisgyblion i gael mynediad i'r ysgolion y maent hwy a'u rhieni yn eu dewis.
(30 munud)
NDM6092 Vikki Howells (Cwm Cynon)
Rhyddhau Potensial Naturiol Plant - Rôl Addysg Awyr Agored yn y Broses Ddysgu.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 27 Medi 2016